Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2020
Amser:
09.05 -
10.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6392
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd) Michelle Brown AS Neil McEvoy AS Jack Sargeant AS Leanne Wood AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Deisebau COVID-19
2.1 P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn penderfynu sut i fynd ymlaen.
2.2 P-05-970 Gofynnwch i'r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i sŵau ac acwaria
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn sut maen nhw’n bwriadu adolygu’r mater hwn ac i rannu sylwadau'r deisebwyr i’w trafod yn ystod y broses adolygu.
2.3 P-05-971 Dylid llacio'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-989 Cadw'r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru a chytunodd i nodi cryfder y teimlad a fynegwyd trwy nifer y bobl a lofnododd y ddeiseb a'r sylwadau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ond caewyd y ddwy ddeiseb gan fod y cyfyngiadau teithio y cyfeiriwyd atynt wedi'u llacio ar 6 Gorffennaf.
2.4 P-05-989 Cadw’r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-971 Dylid llacio'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb gan fod y cyfyngiadau teithio y cyfeiriwyd atynt wedi'u llacio ar 6 Gorffennaf.
2.5 P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i rannu’r ddeiseb hon a gofyn iddi gael ei hystyried yn ystod eu trafodaethau parhaus ynghylch effaith y pandemig Covid-19 ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.
2.6 P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i drafod y ddeiseb eto yng ngoleuni canlyniad adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o’r cyfyngiadau Covid-19 ar 9 Gorffennaf, a sylwadau pellach gan y deisebydd.
3 Deisebau newydd
3.1 P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw'r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gydnabod y trawma y mae rhieni’n ei brofi wrth golli babi, a dymunodd ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y materion hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn beth y mae'r Gweithgor yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod gan bobl sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad fynediad i fannau a chyfleusterau sy'n briodol i'w sefyllfa, ac a ellir ystyried argymhellion adroddiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru fel rhan o hyn.
3.2 P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a, gan nodi mai dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd yr Isafbris Uned ar gyfer alcohol a bod astudiaethau i'w ganlyniadau a'i effeithiolrwydd yn cael eu cynnal, cytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn:
· nodi’r teimladau a fynegwyd yn y ddeiseb a’r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· rhannu’r ddeiseb â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'w thrafod yn ystod eu gwaith craffu ar ôl deddfu; a
· chau'r ddeiseb yn sgîl y ffaith nad oes llawer rhagor y gellir ei wneud ar hyn o bryd.
3.3 P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 – diangen ac yn tanseilio hawliau dynol
Yn sgîl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig yn parhau yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i nodi'r ddeiseb a'r pryderon a godwyd ond y bydd yn cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, gan ddiolch i'r deisebwyr am godi’r mater hwn.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! Yn sgîl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig i’r canllawiau a’r rheoliadau addysg yn y cartref yn parhau yn ystod tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â nhw ynghylch y mater hwn.
4.2 P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref. Yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig i’r canllawiau a’r rheoliadau addysg yn y cartref yn parhau yn ystod tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â nhw ynghylch y mater hwn.
4.3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd bod Cafcass Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ‘Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant’ ac wedi darparu hyfforddiant i'w ymarferwyr ar sut i gydnabod y mater hwn, yn ystod yr amser y mae'r ddeiseb wedi cael ei hystyried. Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi trafod llawer o ohebiaeth ac wedi cynnal sesiynau tystiolaeth gyda’r deisebwyr, Cafcass Cymru a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Ar ôl cynnal pleidlais, barn mwyafrif y Pwyllgor oedd nad oedd llawer rhagor y gellir ei gyflawni yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac y dylid cau’r ddeiseb.
4.4 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i nodi’r oedi i’r broses ailasesu yn sgil y pandemig Covid-19, ac i ofyn am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys syniad o’r amserlen bosibl ar gyfer cwblhau’r ailasesu.
4.5 P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Yng ngoleuni'r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gadw Adran Achosion Brys amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i longyfarch yr ymgyrchwyr ar ddatrysiad llwyddiannus i’w hymgyrch.
4.6 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am aelodaeth Partneriaeth Creu Lleoedd Cymru a chael sicrwydd y bydd sefydliadau priodol sy'n cefnogi pobl ddigartref yn cymryd rhan yn y gwaith hwn, gyda'r bwriad o gau’r ddeiseb os ceir digon o sicrwydd.
4.7 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i:
· wahodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac
· ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ofyn am gopi o adroddiad archwilio diweddaraf Pont Sir y Fflint fel y cytunwyd yn eu sesiwn dystiolaeth ar 1 Hydref 2019.
4.8 P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn a ellir rhannu’r holl adborth â Grŵp y Tasglu er mwyn iddo gael ei ystyried ganddynt, ac i ofyn y cwestiynau a ganlyn a gynigiwyd gan y deisebydd:
· yr amserlen ar gyfer gwaith y tasglu a gweithredu eu hargymhellion, yn enwedig yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol ac etholiadau’r Senedd sydd ar ddod; a
· sut yr ymgynghorir â phobl sydd wedi colli’u golwg a sefydliadau sy'n eu cynrychioli ynghylch unrhyw fesurau a weithredir.
4.9 P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd
Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i:
· gael eglurhad gan y datblygwyr ynghylch nifer bosibl y wagenni fydd yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r safle, capasiti’r ffwrnais ac allyriadau posibl y safle; a
· nodi bod ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar y gweill a bod disgwyl i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno yn nhymor yr hydref ac i gadw golwg ar y datblygiadau ar hyn o bryd.
4.10P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ailedrych ar y posibilrwydd o ofyn am ddadl ar y ddeiseb hon yn ystod tymor yr hydref, os bydd hynny’n briodol, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlenni o ran y cais cynllunio yn y cyfamser.